Yr ardal o gwmpas ac atyniadau lleol.

Llwybr Epynt

Llwybr Epynt

Daw cannoedd o bobl bob blwyddyn i grwydro ardal Epynt, ac er y cynnydd yn ei boblogrwydd, mae'n dal i gadw'r teimlad o fod yn gornel fach dawel o Gymru. Yn ddiweddar agorwyd llwybr seiclo / llwybr ceffylau sef Llwybr Epynt, o gwmpas tir Epynt, gyda chyfle i fwynhau'r ardal hyfryd a hanesyddol wrth aros yn ein llety o'r ansawdd gorau.

Mae bythynnod gwyliau Pentwyn ger pentref bach Merthyr Cynog, 8 milltir o Aberhonddu a 10 milltir o Lanfair-ym-Muallt. Mae'r rhan hon o Bowys yn enwog am y digwyddiadau sy'n cael eu cynnal yma - Gwyl Jazz Aberhonddu, Gwyl y Gelli a'r Sioe Fawr yn Llanfair-ym-Muallt. Hefyd mae'r enwog 'Bog Snorkelling' a'r Dyn V Ceffyl yn Llanwrtyd. Mae Aberhonddu a Llanfair-ym-Muallt yn drefi marchnad bychain, hanesyddol gyda siopau a chaffis bach gwahanol. Cynhelir Marchnad y Ffermwyr yn Aberhonddu ar ddydd Sadwrn lle bydd cyfle i chi brynu a blasu'r cynnyrch lleol. I'r rhai ohonoch sy'n mwynhau golff, mae yna gyrsiau golff yn Aberhonddu a Llanfair-ym-Muallt, ond ar garreg y drws mae Clwb Golff Cradoc sydd â chyfleusterau a lle bwyta gwych.

Walkers on the Brecon Beacons

Walkers on the Brecon Beacons

Mae mynyddoedd y Bannau Brycheiniog yn atyniad poblogaidd iawn. Gyda theithiau cerdded byr i deuluoedd a theithiau mwy heriol i oedolion, mae'r Bannau'n gyfle gwych i gael ychydig o antur ac ymarfer corff. Fel y pegwn uchaf yn ne Prydain, mae Pen y Fan yn dipyn o daith ond yn werth yr ymdrech wrth gyrraedd y copa. Mae'r golygfeydd ar draws milltiroedd di-ri o gefn gwlad Cymru'n ddigon i gymryd eich gwynt.

Mae Gŵyl y Gelli'n atyniad poblogaidd dros ben ar ddiwedd Mai / dechrau Mehefin. Yno fe welwch sêr y byd llenyddol, gwleidyddol ac adloniant, ac mae'r awyrgylch yn wefreiddiol.