Bwthyn y Barcud Coch

Lle i 5

Bwthyn cerrig clud a chyfforddus, wedi'i adnewyddu o'r hen stablau sy'n dyddio nôl i'r 1600au. Adnewyddwyd y bwthyn gan ddefnyddio coed derw o'r fferm ei hun a chrefftwyr lleol. Ceir golygfeydd hyfryd o'r bwthyn a chyfle di-ri i weld y barcutiaid sy'n hedfan o gwmpas y lle.

2 ystafell wely. Digon o le yn y gegin hyfryd gyda phopty trydan, microdon, peiriant golchi llestri, oergell, rhewgell a pheiriant golchi dillad, bwrdd mawr a chadeiriau. Ty bach i lawr grisiau gyda basn. Lolfa mawr gyda soffas cyfforddus, SKY, teledu a DVD. Wifi, ystafell gemau, hot tub a sawna ar gael am bris ychwanegol. Golygfeydd hyfryd ar draws y dyffryn at fryniau gyda defaid, gwartheg a cheffylau'n pori'n dawel. Drws yn agor o'r gegin i'r lawnt.

I fyny'r grisiau i ystafell wely i'r teulu gyda gwely dwbl a gwely sengl. Yr ail ystafell yn cynnwys gwely dwbl. Yr ystafell ymolchi'n cynnwys bath gyda chawod uwchben, basn a thoiled.

Dillad gwely a thywelion yno ar eich cyfer chi. Trydan a gwres canolog olew. Rydym yn croesawu anifeiliaid anwes ar yr amod eu bod yn aros ar y llawr gwaelod ac o dan reolaeth gan fod anifeiliaid fferm o gwmpas. I'ch croesawu chi fydd dewis o fara gan Caroline, sef popty bach ym mhentref Merthyr Cynog. Digon o le parcio. Wifi, ystafell gemau a 'hot tub' a sawna am bris ychwanegol. Gardd a theras gyda dodrefn a BBQ. Dim llawer o wasanaeth ffôn symudol. Cot teithio a chadair uchel. Croeso hefyd i geffylau trwy drafod â'r perchennog, gan mai dyma gartref Bridfa Epynt, lle mae'r teulu'n bridio merlod mynydd. Digon o gyfle i farchogaeth.

I'r rhai ohonoch sydd am fod yn fwy egniol, mae'r llwybr beicio mynydd NEWYDD am 2013 ar gael i chi ei ddefnyddio trwy'r coed.


A fanstastic week in super barns with lovely views. Great to all be able to eat together, enjoyed the hot tub and games room. Would love to return and highly recommend Pentwyn! Thank you for the lovely bread on arrival.
— Juler Family, Oxford