Ffermdy Pentwyn

Lle i 6.

Mae'r Ffermdy wedi'i adnewyddu o ffermdy gwreiddiol yr 16eg ganrif, lle roedd fy nhad a'i rieni'n byw hyd at 1943. Erbyn hyn mae'n un o dri llety y byddwch yn eu cyrraedd trwy goedwig dderw, sy'n edrych i lawr ar ddyffryn Yscir Fechan ar gyrion Mynydd Epynt. Ceir golygfeydd godidog o'r ffermdy dros gefngwlad gerllaw.

3 ystafell wely. Llawr gwaelod agored gyda chegin wych sy'n cynnwys ffwrn â hob trydan, microdon, peiriant golchi llestri, rhewgell ac oergell. Bwrdd bwyta a chadeiriau. Soffas a chadeiriau cyfforddus a lle tân canolog gwreiddiol gyda stôf "fflamau go iawn". Teledu gyda rhai sianelu Sky. Mae'r ystafell amlbwrpas yn cynnwys peiriant golchi, sinc ac ystafell gyda basn a thoiled. Lloriau pren derw gyda ffenestri a drysau derw a wnaed â llaw a thrawstiau agored. Crefftwaith rhagorol trwy gydol y ty, gan ddefnyddio derw cynaliadwy o'r fferm ei hun. Mae'r perchnogion wedi defnyddio seiri a chrefftwyr lleol trwy gydol y gwaith.

I fyny'r grisiau i dair ystafell wely. Ystafell 1 - gwely dwbl gyda chawod a basn. Ystafell 2 - 2 wely sengl. Ystafell 3 - gwely dwbl. Ystafell ymolchi enfawr gyda chawod dwbl, bath, basn a thoiled.

Dillad gwely a thywelion yno ar eich cyfer chi. Trydan a gwres canolog olew. Rydym yn croesawu anifeiliaid anwes ar yr amod eu bod yn aros ar y llawr gwaelod ac o dan reolaeth gan fod anifeiliaid fferm o gwmpas. I'ch croesawu chi fydd dewis o fara gan Caroline, sef popty bach ym mhentref Merthyr Cynog. Digon o le parcio. Wifi, ystafell gemau a 'hot tub' a sawna am bris ychwanegol. Gardd a theras gyda dodrefn a BBQ. Dim llawer o wasanaeth ffôn symudol. Cot teithio a chadair uchel. Croeso hefyd i geffylau trwy drafod â'r perchennog, gan mai dyma gartref Bridfa Epynt, lle mae'r teulu'n bridio merlod mynydd. Digon o gyfle i farchogaeth.

I'r rhai ohonoch sydd am fod yn fwy egniol, mae'r llwybr beicio mynydd NEWYDD am 2013 ar gael i chi ei ddefnyddio trwy'r coed.


What an amazing cottage! This has to be the best equipped holiday accommodation. The views are stunning, the walks exploring the countryside are highly recommended. We had a fantastic Christmas, sledging down the hills was definitely one of the highlights. Thank you for getting us up here after we had to abandon our car in the snow. Definitely top marks for this stay, a big thank you!
— Julia, Lewis, Didcot, Oxon.