Ysgubor Pentwyn

Lle i 7/8

Mae hen fferm Pentwyn wedi'i leoli ar dir uchel yn edrych i lawr ar Ddyffryn Yscirfechan, ger pentref Merthyr Cynog, gyda golygfeydd godidog dros y dyffryn, hyd at y Bannau Brycheiniog.

Mae'r Ysgubor wedi'i adnewyddu i safon uchel iawn gan grefftwyr lleol gan ddefnyddio sgiliau traddodiadol. Defnyddiwyd derw a cherrig lleol yn bennaf i greu lle gwyliau ysblennydd yng nghefn gwlad. Mae digon o le ac offer yn y gegin fawr gyda ffwrn ddwbl drydan a hob, microdon, peiriant golchi llestri ac oergell. Mae 'na ail oergell, rhewgell a pheiriant golchi dillad yn yr ystafell amlbwrpas. Mae digon o le yn y lle bwyta i 15 neu ragor o bobl, gyda soffas a chadeiriau cyfforddus i eistedd o flaen y tân a'r teledu. Mae drysau dwbl yn agor allan i deras gyda dodrefn gardd a golygfeydd anhygoel yr holl ffordd draw i'r Bannau Brycheiniog.

Lan lofft i dair ystafell wely. Ystafell wely 1 - gwely dwbl a sengl. Ystafell 2 - dau wely sengl. Ystafell 3 - ystafell i'r teulu gyda gwely dwbl a gwely sengl. Hefyd en-suite gyda basn, toiled a chawod. Ystafell ymolchi fawr gyda bath, basn, toiled a chawod dwbl mawr.

Dillad gwely a thywelion yno ar eich cyfer chi. Trydan a gwres canolog olew. I'ch croesawu chi fydd dewis o fara gan Caroline, sef popty bach ym mhentref Merthyr Cynog. Digon o le parcio.

Wifi, ystafell gemau a 'hot tub' a sawna am bris ychwanegol. Gardd a theras gyda dodrefn a BBQ. Dim llawer o wasanaeth ffôn symudol. Cot teithio a chadair uchel. Rydym yn croesawu cwn, ar yr amod eu bod yn cael eu cadw i lawr grisiau ac ymhell o anifeiliaid fferm. Gallwch hefyd ddod â'ch ceffyl, gan mai dyma cartref Bridfa'r Epynt, lle mae'r teulu wedi bod yn bridio merlod mynydd ers sawl cenhedlaeth.

I'r rhai ohonoch sydd am fod yn fwy egniol, mae'r llwybr beicio mynydd NEWYDD am 2013 ar gael i chi ei ddefnyddio trwy'r coed.


Wonderful place for a family reunion. Lots of space in the Barn and Farmhouse to spread ourselves round. Loved the light on the mountains and the wood-burning stove in the evening. The evidence of God’s creation here is awesome!
— Ritmeyer Family, Cardiff, Birmingham, Bristol, Australia, Ledbury.